SL(5)232 - Gorchymyn yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymiadau Amrywiol) 2018
Cefndir a Diben
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu chwe offeryn sy’n ymwneud â chwotâu llaeth, un offeryn sy’n ymwneud â Phwyllgorau Cyflogau Amaethyddol ac un offeryn sy’n ymwneud â mewnforio gwair a gwellt. Mae pob un ohonynt wedi darfod neu wedi’u disodli fel arall. Mae’r Gorchymyn hefyd yn dirymu un offeryn sy’n ymwneud â gweithdrefnau amddiffyn rhag llifogydd, nad oes ei angen bellach.
Dirymir yr holl orchmynion mewn perthynas â Chymru a Lloegr, ac eithrio Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Darpariaeth Drosiannol) 1974, a ddirymir mewn perthynas â Lloegr yn unig.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nid yw’r offeryn wedi’i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg
Gwnaed y Gorchymyn hwn fel offeryn cyfansawdd, sy’n golygu bod y Gorchymyn: (a) wedi cael ei wneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU.
O ganlyniad, mae’r Gorchymyn wedi’i wneud yn Saesneg yn unig.
Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod angen gwneud y Gorchymyn ar sail gyfansawdd er mwyn cadw eglurder, hygyrchedd a thryloywder y llyfr statud i’r rhai y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’i ddarpariaethau drwy ddirymu’r ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr.
O gofio’r hanes deddfwriaethol o ran y meysydd cyfreithiol y mae’r Gorchymyn yn eu cwmpasu, rydym yn derbyn bod rhesymau da dros wneud y Gorchymyn hwn yn gyfansawdd, ond nodwn yr effaith a gaiff hynny (h.y. nid oes fersiwn Gymraeg).
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Nodwn pa mor eglur, defnyddiol a thryloyw yw’r Memorandwm Esboniadol (yn arbennig, y tabl sy’n crynhoi’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei dirymu), a pha mor ddefnyddiol oedd hynny i’r Pwyllgor hwn wrth graffu ar y Gorchymyn.
Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
21 Mehefin 2018